Griffith Williams (Gutyn Peris)

Oddi ar Wicipedia

Bardd ar y mesurau caeth oedd Griffith Williams neu Gutyn Peris (1769 - 1838), a aned yn Waunfawr yn yr hen Sir Gaernarfon, gogledd Cymru.

Gutyn Peris
Gutyn Peris

Symudodd i fyw yn Llandygái, ger Bangor, ac yno y bu am weddill ei oes yn chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn. Daeth yn oruchwylwr yn y chwarel yn ddiweddarach.

Cafodd Gutyn Peris ei addysg farddol gan Abraham Williams a Dafydd Ddu Eryri. Roedd yn un o'r disgleiriaf o'r cylch o ddisgyblion a alwyd yn "Gywion Dafydd Ddu", a oedd yn cynnwys yn ogystal Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf).

Daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd a chwareodd ran bwysig yn yr adfywiad llenyddol yn ardal Arfon ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Bu'n cystadlu droeon yn yr Eisteddfod yng nghwmni beirdd fel Gwallter Mechain, Eben Fardd, Caledfryn a Robert Ddu ei hun. Cyhoeddodd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Ffrwyth yr Awen, yn 1816.

Roedd yn gynganeddwr da a amddiffynai'r mesurau caeth yn erbyn dylanwad cynyddol y mesurau rhydd, a chafwyd cyfres o erthyglau ganddo yn Y Gwyliedydd yn dadlau o blaid y mesurau traddodiadol yn erbyn Ieuan Glan Geirionydd. Yn 1799 cymerodd ran, gyda Dafydd Ddu Eryri, mewn eisteddfod yn Ninorwig a drefnwyd gan Iolo Morganwg.

Ei waith mwyaf diddorol efallai yw'r cywydd sy'n disgrifio ei blentyndod yn ardal Waunfawr a Llanberis a'i athrawon barddol Dafydd Ddu ac Abraham Williams.

Pan fu farw yn 1838, cyfansoddodd Robert Parry (Robin Ddu Eryri) (1804-1892), un o'i ddisgyblion barddol, farwnad iddo ar y Pedwar Mesur ar Hugain.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)
  • Robert Parry, Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri (Caernarfon, 1857)