Y Gwrthddiwygwyr Cymreig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Fe wnaeth y Gwrthddiwygwyr Cymreig gyfraniad "unigryw ac arwrol" at ddiwylliant ac iaith ein gwlad. Dyna yw barn Dr Angharad Price ar weithgarwch y Cymry alltud yn yr Eidal. Mynnai hefyd nad yw eu cyfraniadau "wedi ei werthfawrogi'n llawn"; yn groes i hynny mae rhai yn ystyried eu goruchwylion fel "methiant gogoneddus". Ysgogodd weithgarwch y Gwrthddiwygwyr ymdeimlad newydd ym meddylfryd y Cymry ynglŷn â digwyddiadau cyfnod tyngedfennol y Gwrthddiwygiad, ac ail-aseswyd cyfraniadau Protestannaidd at lenyddiaeth Cymru. Fodd bynnag, methiant fu rhai o'u bwriadau a nid oedd eu hanturion yn fêl i gyd.
Yn ystod cyfnod y Dadeni, roedd yr awyrgylch gymdeithasol a chrefyddol yn un ansicr, dyrys. Gyda newidiadau cyson yn y Frenhiniaeth gwelwyd patrymau crefyddol yn amrywio a phenbleth y boblogaeth yn cynyddu. Daeth teyrnasiad Mari Waedlyd fel chwa o awyr iach i'r Gwrthddiwygwyr wrth iddi gynnig cyfnod o Gatholigiaeth yng nghanol cyfnod a ddominyddwyd gan Brotestaniaeth. Wedi marwolaeth Mari, dechreuodd statws Catholigiaeth wanhau yng nghysgodion Protestaniaeth a'r Gwrthddiwygwyr Cymreig oedd y grŵp a adweithiodd ac ymateb i fygythiad y diwygiad Protestannaidd. Aethant at galon y Dadeni Dysg yn Rhufain, cartref y Gwrthddiwygiad, ac fe drawsnewidiwyd patrymau meddwl y Cymry. Nid oedd gwlad eu mebyd fyth ymhell o’u meddyliau a datblygwyd syniadau a chynlluniau newydd i adfer statws iaith a chymunedau traddodiadol Cymru. Dechreuodd Eglwys Rhufain adfer statws y Pab a defnyddiwyd rhai o elfennau clasurol y Dadeni Dysg i atgyfnerthu ei hathrawiaethau. Enwau blaengar ymhlith y Cymry alltud oedd Morys Clynnog, Gruffydd Robert, Owen Lewis, a Rhosier Smyth; gwŷr a garai Cymru ag angerdd yn eu calonnau, gwŷr a oedd yn benderfynol o weddnewid y sefyllfa a'u gwahanant o'u mamwlad. Un o brif nodau'r Gwrthddiwygwyr Cymreig oedd gwarchod yr iaith Gymraeg ac i hybu dysg yn y Gymraeg, a chafwyd ymgeision di-ri ganddynt i gyflawni hyn. Dywed fod Rhosier Smyth wedi gweithio "to demonstrate his love for Wales in the hope that he could get the Welsh gentry to love their country and be custodians of their language".
Derbyniodd Morys Clynnog (1525-1581) beth o'i addysg yn Rhydychen ac yn ystod ei arhosiad yno gwelwyd newidiadau crefyddol chwyldroadol yn y wlad. Aeth i Rufain i dderbyn bendith y Pab wedi iddo gael ei benodi yn Esgob Bangor ond mewn cyd-ddigwyddiad anffodus bu farw Mari Waedlyd ar yr un adeg. Penderfynodd Clynnog aros yn Rhufain rhag dioddef o dan orthrwm Protestaniaeth y wladwriaeth Seisnig. Bu Clynnog yn llythyrwr brwd yn ystod ei gyfnod dramor ac fe geisiodd ddechrau chwyldro ar achlysuron niferus wrth ysgrifennu at uchelwyr y byd Pabyddol. Y ddau ffactor a oedd yn gyrru ei chwant am ddiwygiadau oedd Cymru a Chatholigiaeth. Roedd y cyfuniad o’r ddau yn ddelfryd iddo ac yn ei ysgogi i frwydro’n ddi-baid dros ei gredoau. Wrth lythyru’r Pab, bu Clynnog yn rhoi safle canolog i lenyddiaeth Gymraeg yn ei ymgyrch i adfer yr hen ffydd yn nheyrnas Elisabeth. Roedd yn ddiysgog wrth haeru fod Cymru yn genedl a feddiannai ar iaith, diwylliant a thraddodiadau unigryw. Cymru oedd canolbwynt ei ddadleuon ac roedd ei nwyd am ei wlad yn ddidostur.
Cyn ystyried cyfraniadau'r Catholigion at warchod yr iaith Gymraeg, anodd yw anwybyddu'r effaith enfawr a gafodd y Protestaniaid. Cyfieithwyd y Beibl gan Brotestaniaid megis William Morgan a thrwy gyhoeddi gwaith mor bwysig i'r bobloedd yng nghyfnod y Diwygiad bu'r gwaith yn garreg filltir enfawr yn hanes yr iaith. Cafwyd ceisiadau gan y Catholigion i wneud yr un peth ar gyfer eu crefydd hwy. Cyfrannodd Morys Clynnog at warchod yr iaith Gymraeg a hybu dysg yn y Gymraeg drwy gyfieithu gwaith y darlithydd Diego de Ledesma yng Ngholeg Rhufain. Gan wrthod cydnabod y gwaharddiad ar lenyddiaeth Gatholig a orfodwyd gan Elisabeth, sefydlwyd gwasg ddirgel yn Rhiwledyn, ger Llandudno, i argraffu amryw o weithiau. Llwyddiant oedd y cynllun wrth i Morys Clynnog hybu llenyddiaeth Gatholig, a fyddai'n hafalu effaith y llenyddiaeth Babyddol. Argraffodd Morys waith ym Milan, a chyrhaeddodd nifer o gopïau o'i Athravaeth Gristnogavl arfordiroedd Cymru yn ddirgel.
Ar yr un pryd roedd cyfaill Morys Clynnog, Gruffydd Robert (cyn 1532-wedi 1598), wedi ymsefydlu ym Milan, ac argraffodd ei waith arloesol Gramadeg Cymraeg yno yn 1567. Gan ystyried pwysigrwydd Gramadeg Cymraeg, bu 1567 yn flwyddyn werthfawr ac arwyddocaol i’r iaith Gymraeg, a chyfrannwyd y trysor hwn gan Wrthddiwygiwr Cymreig. Dengys yng nghyfrol Gruffydd Robert iddo ef a Morys Clynnog ddefnyddio eu hiraeth am Gymru - ni chynhesa calon Cymro wrthynt, megis y gwnâi wrth Lan Dyfrdwy, neu lawr Dyffryn Clwyd - i weithredu yn erbyn Protestaniaeth. Amcan y gwaith oedd moderneiddio'r iaith Gymraeg ac i'w gwneud yn hyblyg yn y byd Diwygiadol. Sylweddolodd Gruffydd Robert bwysiced peth ydoedd cyfoethogi geirfa llenorion eu gwlad yn y cyfnod hwn ac fe aeth ati i wella ansawdd yr iaith Gymraeg. Pwysleisiodd y gyfrol hanes yr iaith ac ysblander ei thraddodiad, ond roedd ymgais glir yma hefyd i symud yr iaith i'r cyfnod newydd, i sicrhau na buasai'n cael ei cholli yng ngogoniant y gorffennol. Cyfranodd arddull gwych y gyfrol at ei llwyddiant ysgubol a dylanwadodd yn enfawr ar ddyfodol yr iaith. Dywed rhai mae bwriad y gyfrol oedd darparu cyfle i Gymru sefydlu ei phrifysgolion ei hun, gan ddilyn llwybr yr Eidal, y wlad a ddylanwadodd ar Gruffydd Robert.
Mae’n debyg i Clynnog a Robert helpu ei gilydd i gyhoeddi Athrawiaeth Gristnogawl a Gramadeg Cymraeg. Llwyddodd y ddau i gynhyrchu gwaith a oedd yn arloesol, a rhoddwyd genedigaeth i "drysor mor werthfawr yn yr iaith Gymraeg". Nid pawb oedd o'r un gred am lwyddiant cyfrol Gruffydd Robert fodd bynnag, wrth i Robert Gwyn leisio ei fod yn elfennol yn ei athrawiaeth. Anghytuna yr ysgolhaig Paul Bryant-Quinn â Gwyn gan ddweud bod ymgais Clynnog yn "ymgais fwriadol, a blaengar" ac wrth ystyried yr anawsterau cyfreithiol a daearyddol a oedd yn ei wynebu, bu'r llyfr yn llwyddiant ysgubol. Fodd bynnag, roedd Cymry ledled y wlad yn troi at Brotestaniaeth ac ymddangosai ymdrechion y Pabyddion i newid gwedd y genedl yn ofer.
Bwriad arall gan y Gwrthddiwygwyr oedd dirwyn teyrnasiad Elisabeth i ben. Gwelir y bwriad yma yn llinyn cyson yn llythyrau Clynnog sy'n annog y Pab i ymyrryd yn erbyn y ffydd newydd yn nheyrnas Lloegr. Yr hwyaf aeth ei gyfnod yn alltud, y mwyaf difrif aeth cynllwyniau Clynnog yn erbyn y Frenhines. Mae cydberthynas rhwng y twf hwn a'i hiraeth am ei famwlad, wrth i'w obeithion am Gymru adlewyrchu ei obeithion am ddyfodol Catholigiaeth. Gwelwyd cynnig gwirioneddol gan Clynnog i ddymchwel teyrnasiad Elisabeth wrth iddo ysgrifennu llythyr mewn Cymraeg at William Cecil, un o'i phrif gynrychiolwyr, i geisio ei ddarbwyllo ynghylch ei "ffyrdd penfas". Un bwriad na welwyd yn y llythyr hwnnw oedd ei gynlluniau milwrol i gael gwared ar Elisabeth. Amlinellodd y bwriad hwn mewn llythyrau eraill at y Pab, ac mai'n debyg i ŵr arall o Gymru, Owen Lewis, fod yn gynorthwyydd i ddatgan neges Clynnog iddo. Ysgrifennwyd y llythyrau hynny hefyd mewn Cymraeg ac mae'n debyg iddo ddewis y dull hwn am fod Owen Lewis yn gyfrifol am holl destunau Cymraeg a Saesneg y Fatican. Chwaraeodd y gwŷr hyn ran bwysig wrth ddwyn cynlluniau Catholig i ymwybyddiaeth y Pab ac ni fedr gwadu ymroddiad Clynnog gan fod un o'i lythyrau yn dwyn y teitl At y Pab[:] Cyngor i ddal y deyrnas yn y phydd. Gellir dadlau fod yr agwedd hon ar fwriadau'r Gwrthddiwygwyr yn fethiant oherwydd ni wireddwyd cynllwyniau Clynnog. Gellid dadlau mai'r prif reswm dros y methiant yma oedd cariad diysgog Morys Clynnog at ei famwlad. Wedi bod yn alltud am bymtheg mlynedd efallai bu Clynnog ar fai am fod yn rhy optimistaidd ynglŷn â rhwymedigaeth ei genedl at y grefydd Gatholig. Yn wir, efallai bod ei fwriadau pellgyrhaeddol hyd yn oed yn ormod i'r Pab ei hun, oherwydd ymddengys iddo golli gobaith wedi methiant y cynllun hwn. Cadarnheir y ddadl hon gan y ffaith na chafwyd llythyr arall rhwng Morys Clynnog a’r Pab fyth wedyn.
Yn yr un flwyddyn â methiant yr ymgyrch milwrol, gwelwyd cynlluniau i hyfforddi offeiriaid Cymraeg a Saesneg yn Ysbyty'r Saeson yn Rhufain. Owen Lewis oedd un o brif gefnogwyr y datblygiad a gwelwyd gobeithion pellach i ail-sefydlu Catholigiaeth yn grefydd swyddogol. Wedi penodiad Morys Clynnog fel rheithor cyntaf y coleg, arweiniodd ei gariad at Gymru at ei ddinistr eto. Cafwyd cwynion yn honni fod y myfyrwyr Cymraeg yn derbyn ffafrïaeth gan y rheithor ac fe honnwyd "the newcome Welshman must have the best, because he is the custos' countryman", ac o ganlyniad fe ymddiswyddodd o'i swydd yn yr Ysbyty. Roedd y gwrthdaro rhwng cenhedloedd yn ormod ac felly bu’r cynllun yn fethiant arall i’r Gwrthddiwygwyr. Cafodd enwau da Morys Clynnog ac Owen Lewis eu pardduo a methiant fu ymgais Owen Lewis i weld Cymro yn rheithor y coleg. Roedd marwolaeth Clynnog yn adlewyrchiad trist o gwymp ei fywyd llewyrchus wrth iddo foddi wrth geisio ffoi ar long i weld Cymru unwaith yn rhagor.
Methiant hefyd fu ymgais Owen Lewis i dderbyn nawdd gan y Pab i gyhoeddi gweithiau crefyddol yn Gymraeg i olynu Athrawaeth Gristnogawl Morys Clynnog. Sail ymgais Lewis oedd y tri chyfieithiad Cymraeg a gynhyrchwyd yn Rhufain gan y Cymry alltud. Credir i un ohonynt gael eu hysgrifennu gan Rhosier Smyth a bod y ddau arall ynghyd yn un o lyfrgelloedd yr Eidal. Yn 1580 canfuwyd beddrod yn Rhufain a oedd yn dwyn yr enw "Cedewalla". Honnai'r Cymry mai enw un o frenhinoedd cynnar Cymru, Cadwaladr, oedd i'w weld arno. Ceisiodd Owen Lewis ddylanwadu'r Fatican er lles ei wlad ac i geisio newid yr enw ar y beddrod. Darparwyd cysylltiad newydd rhwng Cymru a Rhufain gyda'r darganfyddiad pwysig hwn, ac fe ysgogwyd y Gwrthddiwygwyr i atgyfnerthu eu gweithgarwch. Methiant fu'r ymgais hon yn ogystal, wrth i Owen Lewis fethu darbwyllo'r Fatican am ei syniadau.
Roedd Rhosier Smyth yn un o'r myfyrwyr cyntaf i ennill lle yn Ysbyty'r Saeson ond bu'n rhaid iddo adael wedi'r ddadl ffyrnig a ddigwyddodd rhwng y Cymry a'r Saeson. Mae'n debyg iddo deithio i Rouen yn Ffrainc yng nghwmni Gruffydd Robert yn ystod ei gyfnod o alltudiaeth a cheir tystiolaeth iddo gopïo gwaith Gruffydd Robert, Y Drych Gristnogawl, a'i gludo'n ddirgel o Ffrainc i Gymru. Yn sicr, bu Rhosier Smyth o gymorth mawr i'r Gwrthddiwygwyr Cymreig ond ni chyrhaeddodd ei weithiau llenyddol yr un uchelfannau â gweithiau Clynnog a Robert. Y gwaith pwysicaf a gyhoeddwyd ganddo oedd Gorsedd Y Byd, ond ni ystyrir y gwaith yn rhan o weithiau llenyddol y Gwrthddiwygwyr. Ar ôl marwolaeth Rhosier Smyth ym Mharis ym 1625 daeth cyfnod y Gwrthddiwygwyr Cymreig i ben.
Ai methiant neu lwyddiant bu gorchestion y Gwrthddiwygwyr felly? Llwyddiant oedd Athrawaeth Gristnogawl a Gramadeg Cymraeg o ystyried y rhwystrau crefyddol a daearyddol a wynebai'r Gwrthddiwygwyr Cymreig. Cytuna Geraint Bowen a’r gosodiad hwn wrth iddo fynegi, "The printing of Catholic books had been prohibited since the early days of Elizabeth's reign, and the adverse effect this had on Catholic writings... cannot be over-estimated". Canmolir eu hymdrechion gan Dr John Davies, Mallwyd, Siôn Rhydderch ac Iolo Morgannwg hefyd. Chwareuodd y ddwy gyfrol hynny rhan bwysig yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg a hefyd yn natblygiad yr iaith ei hun, ac maent yn ddrych i'r un modd y datblygodd y Dadeni gymdeithas ledled Ewrop. Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert oedd yr unig gyfrol ar ramadeg yr iaith am dros hanner canrif tan i John Davies, Mallwyd, gyhoeddi ei waith ef. Fodd bynnag, collwyd llawer o weithiau'r Gwrthddiwygwyr yng nghwrs hanes, gweithiau oedd â'r potensial i ddylanwadu hyd yn oed yn fwy ar yr iaith Gymraeg. Un o'r enghreifftiau pennaf yw gwaith Siôn Dafydd Rhys, a ysgrifennodd sawl testun Cymraeg; ond collwyd canran helaeth ohonynt.
Dioddefodd y Gwrthddiwygwyr amryw o fethiannau yn eu ymgeision i ddisodli Brenhines Lloegr ac mewn ceisiadau am nawdd i gyhoeddi gweithiau pellach. Methiant hefyd bu'r sefydliad Catholig yng Ngholeg y Saeson. Ac eto ysgogwyd eu gwaith a'u brwdfrydedd gan gariad angerddol at Gymru a Chatholigiaeth. Cyhoeddwyd ganddynt gyfrolau a sicrhaodd fod yr iaith Gymraeg yn moderneiddio yn y byd ieithyddol yn gyfochrog â'r datblygiadau cymdeithasol yn ystod cyfnod y Dadeni. Creda G. J. Williams mai "hwy a achubodd ddysg Gymraeg mewn cyfnod argyfyngus". Yng ngeiriau Morys Clynnog, fe'u hysgogwyd gan "hiraeth am lawer o bethau a geid yng Nghymru, i fwrw’r amser heibio yn ddifyr ac yn llawen, wrth ochel y tes hirddydd haf".
[golygu] Llyfryddiaeth
- Angharad Price Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Llên y llenor, 2005)