Afon Ogwen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Ogwen yn afon yng ngogledd-orllewin Cymru sy'n cyrraedd y môr gerllaw Bangor.
Mae tarddiad Afon Ogwen yn Llyn Ogwen, gerllaw ffordd yr A5. Ymysg y nentydd sy'n llifo i mewn i Lyn Ogwen mae Nant Gwern y Gof, Afon Denau, ac Afon Lloer, sy'n tarddu o lyn Ffynnon Lloer yn uchel yn y Carneddau.
Yn syth ar ôl gadael ochr orllewinnol Llyn Ogwen, mae Afon Ogwen yn creu Rhaeadr Ogwen wrth ddisgyn dros greigiau cyn cyrraedd tir mwy gwastad a llifo i lawr dyffryn Nant Ffrancon.
Mae'r afon yn llifo heibio tomennydd o sbwriel llechi o Chwarel y Penrhyn ac yna heibio Braichmelyn. Ychydig yn ddiweddarach mae Afon Caseg, sydd hefyd yn tarddu yn y Carneddau, yn llifo i mewn iddi. Mae'n llifo trwy bentref Bethesda ac yna ymlaen tua'r gogledd-orllewin gan ddilyn hen drac rheilffordd sydd yn awr wedi ei droi yn Lôn Las Ogwen ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Wedi croesi'r A55 a llifo heibio Llandygai, mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Aberogwen, ychydig i'r dwyrain o Fangor, lle mae gwarchodfa natur.